Ce'S ddŵr o'r graig i yfed, I dòri'm syched mawr; Ce's beunydd fara i'w fwyta, O'r nef y daeth i lawr; Ce's delyn tu yma i angeu, Fy holl gystuddiau ffôdd, I ganu i'r Oen fu farw, Mae'n Brïod wrth fy modd. Mi gysgaf hûn yn esmwyth Ar fỳr yn llwch y llawr, Yn holliach, wedi gorphen Milwriaeth f'Arglwydd mawr; Heb elyn i fy mlino I dragwyddoldeb maith; Câf fuddugoliaeth hollol Yn lân ar ben fy nhaith.Morgan Rhys 1716-79
Tonau [7676D]: gwelir: Agorodd ddrws i'r caethion I'r Aipht daeth Iesu'm gwared |
I got water from the rock to drink, To quench my great thirst; I got daily bread to eat, From heaven that came down; I got a harp this side of death, All my afflictions fled, To sing to the Lamb who died, He is a Spouse to satisfy me. I will sleep a sleep at ease Shortly in the dust of the ground, Wholly safe, having finished The military service of my great Lord; With no enemy to grieve me For a vast eternity; I shall get victory completely Holy at the end of my journey.tr. 2025 Richard B Gillion |
|